I'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau ym maes iechyd yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Un ym mhob dau. Dyna'r tebygolrwydd o gael canser yn ystod eich bywyd. Beth bynnag y tebygolrwydd, dylai cael y gofal a chefnogaeth hanfodol fod yn sicrwydd pendant. Ond mae angen cefnogaeth ar frys ar weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen.
Dylai'r system iechyd a gofal cymdeithasol fod yn rhwyd diogelwch i bobl pan maen nhw ei angen fwyaf. Fodd bynnag, nid dyma'r sefyllfa i nifer o bobl sy'n byw gyda chanser ledled y DU.
Ledled y DU, dywed 68% o gleifion eu bod ddim yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt o'r GIG ac mae'n effeithio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae hyn yn annerbyniol.
Mae canser yn troi popeth â'i ben i lawr. Yn sydyn, rhaid rhoi cynlluniau ar stop, gyda thriniaeth ac apwyntiadau ysbyty yn tarfu ar waith. Mae symptomau a sgil effeithiau yn gallu gwneud bob dydd yn her.
Y gwirionedd yw bod dim digon o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal i ateb y galw. Yn ogystal â darparu'r gofal clinigol cywir, mae gweithwyr proffesiynol angen digon o amser i ateb cwestiynau, i leddfu pryderon neu i ddangos y ffordd i bobl sydd â chanser a all fod yn teimlo ar goll yn llwyr.
Dyna pam rydym yn galw ar y sawl sy'n gwneud penderfyniadau ledled y DU i roi'r cynlluniau ac ariannu sydd eu hangen arnom yn eu lle ar frys er mwyn sicrhau bod gennym weithlu canser sy'n addas at y dyfodol. Mae angen gweithredu cyn bod mwy o gleifion a gweithwyr proffesiynol yn talu'r pris.
Mae'r argyfwng yn effeithio ar bedair cenedl y DU, felly rydym yn dod ynghyd i ofyn i chi weithredu. Chi sydd â'r pŵer i arbed ein cefnogaeth. Mae'r bryd blaenoriaethu'r rheng flaen.
Yn gywir,
Ymgyrchwyr Macmillan