Ym mis Medi, rydym ni’n gwahodd ASau i ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad bore coffi yn y Senedd.
Mae hwn yn gyfle pwysig i Macmillan ymgysylltu ag Aelodau'r Senedd, sydd â'r pŵer i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy'n byw gyda chanser.
Yn y digwyddiad byddant yn cael cyfle i glywed gan weithwyr proffesiynol Macmillan a phobl sy'n byw gyda chanser am eu profiadau a'r materion sy'n effeithio arnyn nhw.
Rydym ni angen eich help chi i sicrhau bod cynifer o ASau â phosibl yn ymuno â ni ar y diwrnod. Dim ond ychydig funudau mae'n ei gymryd i anfon eich gwahoddiadau.
A wnewch chi ofyn i'ch Aelodau o'r Senedd ddangos eu cefnogaeth i bobl sy'n byw gyda chanser trwy fynychu digwyddiad bore coffi eleni?