Gyda'r Etholiad Cyffredinol ar y 4ydd Gorffennaf, rydym ni wedi creu teclyn syml i chi ofyn i'ch holl ymgeiswyr lleol: a wnewch chi drawsnewid gofal canser yn y San Steffan nesaf?
Mae gofal canser ar bwynt tyngedfennol ac mae bywydau pobl wir yn y fantol. Ond nid oes rhaid i bethau fod fel hyn. Mae'r Etholiad Cyffredinol hwn yn nodi moment dyngedfennol i drawsnewid profiad pobl o fyw gyda chanser.
Mae ASau yn pleidleisio ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar bob un ohonom ni. Dyna pam mae'n rhaid i ni sicrhau bod darpar ASau yn deall pa mor bwysig yw hi bod pobl â chanser yn cael y gefnogaeth a'r gwasanaethau cywir.
Yr etholiad hwn, helpwch ni i sicrhau bod gofal canser ar yr agenda: gadewch i ni bleidleisio i chwyldroi gofal canser i bobl nawr ac yn y dyfodol. Sicrhewch bod eich llais yn cael ei glywed ac ysgrifennwch at eich ymgeiswyr nawr.